Yn dilyn berfau megis datgan, dweud, meddwl, honni, credu, cytuno, barnu, gwybod, gobeithio a ddewisir ar gyfer traethiedydd (T G) mewn prif gymal, y mae'r cymal enwol sy'n dilyn yn sylweddoli'r Dibeniad (D).
Yn y cymal enwol, bydd y siaradwr yn ailadrodd rywbeth a ddywedwyd naill ai ganddo ef ei hun neu gan rywun arall, a hynny yn ei aralleiriad ei hun.
Mae amryw yn galw'r cymal enwol yn gymal ailadrodd:
Rydych chi'n gwybod (T + G) bod Bob yn byw yn Llanelli (D)
|
You know that Bob lives in Llanelli
|
Cytunent (T + G) fod bywyd yn dda (D)
|
They agreed that life was good
|
Sylweddolodd (T) John (G) ei bod wedi ei brifo (D)
|
John realised that he had hurt her
|
Ceir cymal enwol ailadrodd dibwyslais a chymal enwol ailadrodd pwyslais a chymal enwol o gwestiwn anuniongyrchol
Cymal enwol ailadrodd dibwyslais
Dibynna'r cyfluniad a ddewisir ar amser y ferf yn y prif gymal.
Pan yw traethiedydd y prif gymal a thraethiedydd y cymal enwol yn gyfamserol cyflwynir y cymal enwol gan bod:
Rwy'n credu bod pob un ohonynt yn
|
I believe that every one of them is weeping
|
Cytunent fod yr arholiadau yn anodd
|
They agreed that the examinations were difficult
|
Gwn fod ei wraig yn gweithio yn Llundain
|
I know that his wife works in London
|
Credaf dy fod yn gwastraffu dy amser
|
I believe that you are wasting your time
|
Pan yw traethiedydd y cymal enwol yn ddyfodol o ran ei berthynas ag amser traethiedydd y prif gymal, cyflwynir y cymal enwol gan y(r) a ddilynir gan ferf rediadol. Ceir y o flaen cytsain, yr o flaen llafariad ac h-:
Rwy'n barnu yr hoffai'r gweithwyr orffen
|
It’s my opinion that the workmen would like to finish
|
Gwyddai Gwydion y byddai ei ewythr yn ei achub
|
Gwydion knew that his uncle would save him
|
Dywedodd y byddai'n galw yn ystod yr wythnos
|
He said that he would call during the week
|
Pan yw traethiedydd y cymal enwol yn orffennol o ran ei berthynas â thraethiedydd y prif gymal, gellir dewis un o'r cyfluniadau isod:
i. bod + wedi + berfenw
Credai fod perthynas y ddau wedi dirywio
|
He believed that the two’s relationship had deteriorated
|
Gwn ei fod wedi cau’r siop am y prynhawn
|
I know that he has closed the shop for the afternoon
|
Gall y cymal gael ei gyflwyno gan gobeithio:
- Gobeithio bod y plant yn hoffi’r canu.
- Gobeithio y bydd y plant yn hoffi’r canu.
- Gobeithio bod y plant wedi hoffi’r canu.
ii. i + goddrych + berfenw
Roeddwn yn synnu ichi wneud y fath annibendod
|
= Roeddwn yn synnu eich bod wedi gwneud y fath annibendod
|
I was amazed that you had made such a mess
|
Honnaf imi gyflawni'r gwaith yn foddhaol
|
= Honnaf fy mod wedi cyflawni’r gwaith yn foddhaol
|
I maintain that I completed the work satisfactorily
|
Yng Nghymraeg gogledd Cymru gellir dewis daru (wedi ei dreiglo'n ddaru) o flaen yr arddodiad i:
Credaf ddaru imi gyflawni’r gwaith yn foddhaol
|
I believe that I completed the work satisfactorily
|
Cymal enwol ailadrodd pwyslais
Pwysleisir y cymalau enwol uchod trwy roi mai o flaen yr elfen y dymunir ei phwysleisio yn y cymal enwol:
Credai mai gweithio yn Aberdâr yr oedd bellach
|
He believed that it was working in Aberdare he was now
|
Roedd yn honni mai yn y gogledd roedd hapusaf
|
He maintained that it was in the north he was happiest
|
Fe ddeallodd mai John oedd wrth y drws
|
He understood that it was John who was at the door
|
Yng Nghymraeg y de, gall taw ddigwydd yn hytrach na mai:
Fe ddeallodd taw John oedd wrth y drws
|
He understood that it was John who was at the door
|
Negyddu'r cymal enwol
i. Sylweddolir traethiedydd y cymal enwol gan ferf rediadol.
Ceir na(d) o flaen y ferf mewn cymal enwol negyddol. Ceir na o flaen cytsain, nad o flaen llafariad. Dilynir na gan dreiglad llaes o c, p, t, a threiglad meddal o g, b, d, m, ll, rh:
Gwn nad yw ei wraig yn gweithio yn Llundain
|
I know that his wife is not working in London
|
Dywedodd nad oedd am wastraffu amser
|
He said that he did not wish to waste time
|
ii. Mewn cymal pwyslais negyddol disodlir mai gan nad:
Roedd wedi honni nad yno yr oedd hapusaf
|
He had maintained that it was not there he was happiest
|
Dywedodd nad sicrhau tegwch i bawb oedd ei amcan
|
He said that ensuring fairness for all was not his aim
|
iii. Gellir dewis heb yn safle'r ategydd yn y cymal enwol negyddol:
Clywais fod y car heb ei werthu
|
= Clywais nad oedd y car wedi ei werthu
|
I heard that the car has not been sold
|
Credaf eu bod heb benderfynu
|
= Credaf nad ydynt wedi penderfynu
|
I believe that they have not decided
|
Y mae cwestiynau anuniongyrchol yn gymalau enwol:
Hola'r awdur pam y dylem ddarllen nofelau cyfoes
|
The author asks why we should read contemporary novels
|
Ni wyddwn i ble i droi
|
I didn’t know where to turn
|
Dwy' ddim yn gwybod sut y dois i yma
|
I don’t know how I got here
|